1 Chronicles 18

Llwyddiant milwrol Dafydd

(2 Samuel 8:1-18)

1Ar ôl hyn dyma Dafydd yn concro'r Philistiaid, ac yn dwyn rheolaeth Gath a'r pentrefi o'i chwmpas oddi arnyn nhw.

2Wedyn dyma fe'n concro Moab. A daeth Moab o dan awdurdod Dafydd a thalu trethi iddo.

3Yna dyma Dafydd yn concro Hadadeser, brenin talaith Soba wrth Chamath. Roedd e ar ei ffordd i geisio cael yr ardal ar lan yr Ewffrates yn ôl o dan ei awdurdod. 4Ond dyma Dafydd yn dal mil o'i gerbydau rhyfel, saith mil o'i farchogion a dau ddeg mil o'i filwyr traed. Cadwodd gant o'r ceffylau, ond gwneud y gweddill i gyd yn gloff. 5Daeth Syriaid talaith Damascus i helpu Hadadeser, ond lladdodd byddin Dafydd ddau ddeg dau mil ohonyn nhw hefyd.

6Wedyn dyma Dafydd yn gosod garsiynau o filwyr ar dir Syriaid Damascus. Daethon nhw hefyd o dan ei awdurdod, a gorfod talu trethi iddo. Roedd yr Arglwydd yn gwneud i Dafydd ennill pob brwydr ble bynnag roedd e'n mynd. 7Aeth Dafydd â'r tariannau aur oedd gan swyddogion Hadadeser i Jerwsalem. 8A cymerodd lot fawr o bres hefyd o Tifchath a Cwn, trefi Hadadeser (Defnyddiodd Solomon y pres i wneud y basn mawr oedd yn cael ei alw “Y Môr,” a hefyd y pileri ac offer arall o bres.).

9Pan glywodd Toi, brenin Chamath, fod Dafydd wedi concro Hadadeser, brenin Soba, a'i fyddin i gyd, 10dyma fe'n anfon ei fab Hadoram ato i geisio telerau heddwch, ac i longyfarch Dafydd ar ei lwyddiant. (Roedd Hadadeser wedi bod yn rhyfela byth a hefyd yn erbyn Toi.) Ac aeth â pob math o gelfi aur ac arian a phres gydag e. 11A dyma Dafydd yn cysegru'r cwbl i'r Arglwydd. Roedd wedi gwneud yr un peth gyda'r holl arian ac aur roedd wedi ei gymryd o'r gwledydd wnaeth e eu concro, sef: Edom, Moab, pobl Ammon, y Philistiaid a'r Amaleciaid. 12Roedd Abishai fab Serwia wedi lladd un deg wyth mil o filwyr Edom yn Nyffryn yr Halen.

13A dyma fe'n gosod garsiynau yn Edom. Daeth Edom i gyd o dan ei awdurdod a gorfod talu trethi iddo. Roedd yr Arglwydd yn rhoi buddugoliaeth i Dafydd ble bynnag roedd yn mynd.

Swyddogion Dafydd

14Roedd Dafydd yn frenin ar Israel gyfan. Roedd yn trin ei bobl i gyd yn gyfiawn ac yn deg. 15Joab (mab Serwia
18:15 fab Serwia Chwaer Dafydd oedd Serwia, felly roedd Joab yn nai i Dafydd (gw. 1 Cronicl 2:12-17, a'r troednodyn yn 2 Samuel 17:25).
) oedd pennaeth y fyddin. Jehosaffat fab Achilwd oedd cofnodydd y brenin.
16Sadoc fab Achitwf ac Abimelech fab Abiathar oedd yr offeiriaid. Shafsha oedd ei ysgrifennydd gwladol. 17Benaia fab Jehoiada oedd pennaeth gwarchodlu personol y brenin (Cretiaid a Pelethiaid). Ac roedd meibion Dafydd yn brif swyddogion hefyd.

Copyright information for CYM